CYFARWYDDIADAU I GYFRANWYR

At ei gilydd, dylid dilyn arddull yr MHRA. Dylid cyfeirio hefyd at Rhiannon Ifans, Y Golygiadur. Yn lle defnyddio op. cit ac ibid, a eill beri dryswch i’r darllenydd mewn ysgrif faith, defnyddir cyfenw’r awdur neu’r golygydd + teitl byr. Ni ddylid defnyddio dull MS Word o ddynodi troednodiadau. Dylid cynnwys y troednodiadau yng nghorff y testun fel a ganlyn:

Gellir troi at yr hyn sydd gan Robin Chapman
i’w ddweud ar y pen hwn.\footnote{T. Robin
Chapman, \emph{Meibion Afradlon a
Chymeriadau Eraill} (Caerdydd: Gwasg
Prifysgol Cymru, 2004), 44--46.}


Nodir y troednodyn yn union ar ôl yr atalnod yn ddi-fwlch. Dylid amgáu cynnwys y troednodyn mewn cromfachau petryal:

\footnote{Cynnwys y troednodyn}


Mewn erthygl dilynir y dull canlynol:


Francesco Benozzo, ‘Guglielmo IX e le fate:
il ‘‘vers de dreit nein’’ e gli archetipi celtici
della poesia dei trovatori’, \emph{Medioevo
romanzo}, 21 (1997), 69--87.


Ffrwyth y côd fydd a ganlyn:

Francesco Benozzo, ‘Guglielmo IX e le fate: il “vers
de dreit nein” e gli archetipi celtici della poesia dei
trovatori’,
Medioevo romanzo, 21 (1997), 69–87.
I ddynodi llythrennau mewn italig defnyddir y dull canlynol:

\emph{Dyma lythrennau mewn italig}


Ni ddefnyddir y byrfoddau ‘t.’ na ‘tt.’ o gwbl. Sylwer bod angen dau gysylltnod rhwng rhifau. Un yn unig a ddefnyddir rhwng llythrennau.


tad-cu ond 153--154

Ar gyfer ysgrif mewn cyfrol dilynir y dull a ganlyn:


Dylan Foster Evans, ‘‘‘Bardd arallwlad’’:
Dafydd ap Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’,
yn Owen Thomas (gol.), \emph{Llenyddiaeth mewn
Theori} (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2006),
39--72.


Ffrwyth hyn fydd a ganlyn:

Dylan Foster Evans, “‘Bardd arallwlad”: Dafydd ap
Gwilym a theori ôl-drefedigaethol’, yn Owen Thomas
(gol.),
Llenyddiaeth mewn Theori (Caerdydd: Gwasg
Prifysgol Cymru, 2006), 39–72.

Sylwer bod angen enw’r cyhoeddwr yn ogystal â’r man cyhoeddi. Sylwer hefyd mai’r symbol a ganlyn sydd ei angen ar gychwyn dyfyniad:


Mae’r symbol i’w gael wrth ochr rhif 1 ar y rhan fwyaf o allweddellau. Ar allweddell MAC mae’r symbol yn ymyl y llythyren Z. O ran man cyhoeddi, enw’r argraffwr, byrfodd y golygydd ayb dilynir iaith y cyhoeddiad. Er enghraifft:

Frank Mittelbach a Michael Goossens (eds),
\emph{The Latex Companion} (London:
Addison-Wesley, 2004), 276--1092.


a

Francesco Benozzo (ed.), \emph{Vincolare,
ricambiare, dominare. Il dono come pratica
sociale e tema letterario} (Alessandria:
Edizione dell’Orso, 2006).


Ar gyfer dyfyniadau defnyddir y dull canlynol:

\begin{quote}Dyma ddyfynnu pedair llinell neu
fwy...\footnote{Cynnwys y troednodyn.}\end{quote}


Ffrwyth y côd fydd a ganlyn:

Dyma ddyfynnu pedair llinell neu fwy...46

I ddyfynnu barddoniaeth defnyddir y dull canlynol:


\begin{verse}
Y oedd yno wrtho’i hun er bod tad,\\
\hspace{3em}Er bod torf i’w ganlyn.\\
\hspace{2em}Ddoe i’r fynwent aeth plentyn,\\
\hspace{2em}Ohoni ddoe daeth hen ddyn.
\footnote{Gerallt Lloyd Owen, ‘Plentyn
yn Angladd ei Fam’.}
\end{verse}


Am ragor o gyfarwyddyd cysylltwch â’r Golygydd (owen.thomas[afalwoden]lamp.ac.uk
) - [afalwoden] = @