penwythnos breswyl cerddoriaeth yscolan
pentre ifan, preseli, sir benfro, gorllewin cymru
yr hydref 2008


{click for english}.

Bu'r ddau penwythnos breswyl yscolan hyd yn hyn dan ei sang ac felly byddwn yn trefnu penwythnosau dwywaith y flwyddyn yn rheolaidd. Un bob gwanwyn a'r llall pob hydref. Bydd y penwythnos preswyl nesaf rhwng Dydd Gwener, Tachedd 14eg a Dydd Sul, Tachwedd 16eg 2008 Mae'r gwybodaeth ar gael hefyd ar ffurf pdf gyda mwy o ddeleweddaud [gwasgwch fan hyn am y pdf] neu mewn print syml islaw. Ffurflen gais i'w gael islaw


Gwener, Ebrill 25ain - Sul Ebrill 27ain 2008


Cyfle i encilio am y penwythnos yng nghwmni deg oedolyn o gerddor rhyngwladol (18+) o allu cerddorol cymysg, i chwarae, i ddysgu ac i fyfyrio ynghylch cerddoriaeth. A'r cyfan yn llonyddwch hyfryd y lleoliad gwledig hudol yn hydref bryniau'r Preseli.

Bydd gweithgareddau penwythnos yscolan yn rhai hyblyg ac yn ymateb i fewnbwn y cyfranogwyr. Yn y modd hyn bydd cyfraniad pob cerddor yn llywio ffurf y penwythnos. Ond y man cychwyn fydd y dyhead cyffredin i ddod i ddealltwriaeth ddyfnach o'n mynegiant cerddorol personol ein hunain. Fyddwn ni ddim yn anelu'n benodol at gyd-weithio gydag eraill neu mewn ensemble, ond mae'n bosib y bydd hyn yn un o ganlyniadau'r penwythnos.

Er mai cerddoriath fydd gwir lingua franca y cyfranogwyr, disgwylwch Almaeneg, Ffrangeg, Saesneg a Chymraeg hefyd.



Seilir y penwythnos ar fewnbwn ysbrydoledig oddiwrth y pibydd a'r ffliwtydd Ceri Rhys Matthews.


Cefndir.

Dyma'r trydydd benwythnos preswyl i Ceri ei drefnu, wedi'i ysbrydoli gan yr ysgol haf flynyddol a drefnir gan yr English Acoustic Collective ym Melin Ruskin, dan arweiniad Chris Wood, lle y gwahoddwyd Ceri i ddysgu yn haf 2007. Bydd penwythnos yscolan yn ffocysu ar faterion a ddaeth i sylw Ceri o ganlyniad i'r profiad hwnnw, ond sy' ddim o anghenrhaid o'r pwys pennaf i ysgol haf yr EAC ar hyn o bryd.

Er yn annibynnol o'i gilydd, ac o bosib yn wahanol eu natur, mae'n bosib ystyried ysgol haf yr EAC a phenwythnos yscolan yn gyflenwol i'w gilydd ac efallai y bydd cyfranogwyr i un yn elwa ar fynychu'r llall.

Bwriedir cynnal y penwythnos yscolan canlynol yn Ebrill 2009.

Am ragor o wybodaeth am y pynciau isod, ysgrifennwch at ceri@yscolan.info neu ffoniwch 01559 384962 os gwelwch yn dda.

"Ceri Matthews from Wales has spent a decade or more bringing back from extinction the Welsh pipes and has created a beautiful music informed by the Welsh language and song tradition."

Brian Vallely - Director William Kennedy piping festival, Armagh

"Each of us who are interested in music making, particularly un-schooled, local music making, have a little bag full of our stories, our musical tools and tricks and tunes and tastes and smells and fruits and tears and triumphs. Everything we ever played or cared about is in that bag and a great more besides. Over the years I have known Ceri I have caught him rummaging around in that bag and stood amazed as time after time he has produced, without any ceremony, some of the rarest treasure I have ever seen or heard."

Chris Wood - English Acoustic Collective


Ffocws y penwythnos.

Dyma gyfle i gerddorion o wahanol gefndiroedd arddull a diwylliant fynd ati i archwilio agwedd o greu cerddoriaeth sy' wedi, i raddau helaeth, ei hesgeuluso gan y system addysg gerddorol strwythuredig a hefyd gan y ffordd y mae cerddoriaeth yn cael ei chategoreiddio wrth gael ei marchnata.

Bydd penwythnos yscolan yn ffocysu ar y berthynas sy'n bodoli rhwng y cerddor creadigol sy'n gweithio mewn arwahanrwydd diwylliannol ar yr un llaw, ac ar y llaw arall, y diwylliant cerddorol cyffredin 'yn ni wedi ei etifeddu oddiwrth gerddorion anhysbys y gorffennol.


Cerddoriaeth werin neu draddodiadol.

Mae'r math o gerddoriaeth a gyfeirir ato'n gyffredinol fel gwerin neu draddodiadol yn gefnlen sonig i'r gerddoriaeth sy'n cael ei chreu heddi', p'un ai 'yn ni'n galw ein hunain yn gerddorion jazz, traddodiadol, gwerin neu glasurol. A dweud y gwir, mae'n gyfuniad o'r holl ffurfiau a ellir eu categoreiddio'n hanesyddol, sy' wedi ffeindio'i ffordd, yn gyfan neu'n rannol, i'n cof cerddorol cyffredin. Dyma'r gerddoriaeth a gafodd ei chasglu, ei ffiltro a'i meithrin gan gerddorion hunanddysgedig dros y canrifoedd. Mae'r ffordd rydyn ni'n delio â'r etifeddiaeth hon mewn cymdeithas doredig o'r pwysigrwydd mwya i gerddorion sydd am gynhyrchu cerddoriaeth gyda'i lleisiau eu hunain. Gyda'i leoliad yng nghorllewin Cymru, bydd penwythnos yscolan yn siwr o ddefnyddio'r etifeddiaeth arbennig hon fel man cychwyn i'r gerddoriaeth, fel deunydd crai a fel cymhariaeth ar gyfer y cyfranogwyr a fydd yn dod o ardaloedd eraill. Ond wrth gwrs, bydd cyfranogwyr yn dod â'u storiau cerddorol eu hunain gyda nhw...


Gallu technegol.

Nid gallu technegol fydd prif ffocws penwythnos yscolan ond mae'n hanfodol eich bod yn deall eich offeryn yn weddol dda. Croesewir feistrolaeth technegol ond nid ar draul y gerddoriaeth. Does dim angen y gallu i ddarllen cerddoriaeth ond mae'r gallu i godi alaw ar y glust neu gofio trefniant yn bwysig. Mae penwythnos yscolan wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n ystyried eu hunain yn fyfyrwyr yn ogystal â'r rheini sydd wedi bod yn mynegi eu hunain trwy gerddoriaeth dros nifer o flynyddoedd.

Mae penwythnos yscolan ar gyfer cerddorion sy'n chwarae offerynnau sy' ddim angen trydan, a rhown flaenoriaeth i offerynnau alaw dros offerynnau cordiol/offerynnau cyfeilio. Does dim piano yn y ganolfan.


Strwythur y dydd.

Bydd gweithgareddau'r penwythnos yn hyblyg ac yn ymateb i fewnbwn y cyfranogwyr. Ond dyma fframwaith bras. Byddwn yn ymgynnull o 10.30 bore Gwener. Bydd y sawl sy'n trafeili o bellter yn cyrraedd yn ystod y bore. Bydd y sesiwn cyflwyno cyntaf, pwysig ar ôl cinio. Wedyn swper a sesiwn hwyr.

Bydd pob diwrnod yn dechrau tua 10.30 ar ôl i ni fwyta brecwast.
Sesiwn y bore
Byddwn yn coginio, bwyta a clirio cinio tua canol dydd.
Sesiwn y prynhawn
Byddwn yn coginio, bwyta a clirio swper tua 7.00
Sesiwn yr hwyr

Bydd hyd sesiwn yr hwyr yn hyblyg ond byddwn yn ystyried y ffaith bod yr ystafelloedd gwely lawr llawr, yn union o dan y prif weithle.


Rhaid i ni adael Canolfan yr Urdd erbyn 9 bore dydd Llun .


Lleoliad.

Canolfan breswyl elusennol i ieuenctid wedi ei sefydlu gan yr Urdd yw Canolfan Pentre Ifan, ond y mae penwythnos yscolan yn annibynnol o'r Urdd. Ail-agorwyd y ganolfan addysg yn 1992, mewn ty-porth 600 mlwydd oed wedi ei amgylchynu gan goed a thir ffermio, a mae hyn yn gwarantu awyrgylch dawel a chartrefol.

Mae Pentre Ifan wedi ei leoli tua 2 filltir o Drefdraeth, rhwng Abergwaun ac Aberteifi ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae'r rhan fwyaf o bobl yr ardal yn Gymry Cymraeg ac mae'n ardal wledig s'yn nodweddiadol am ei golygfeydd gwych, olion hanesyddol a'i bywyd gwyllt toreithiog, unigryw.



Heb fod yn bell o'r ganolfan mae siambr gladdu Pentre Ifan (uchod, dde), bryngaer Oes Haearn Castell Henllys, llwybr yr arfordir, gwarchodfa Ty Canol (uchod, chwith), mynyddoedd y Preseli a Chwm Gwaun.

Llety.



Mae llety plaen ar gynnig ym Mhentre Ifan ar ffurf ystafelloedd cysgu byncws un-rhyw wedi eu lleoli ar y llawr isaf o dan y brif ystafell weithio (llun uchod), gyda chyfleusterau cawod ac ymolchi. Mae'r byncs wedi'i cynllunio ar gyfer pobl yn eu harddegau ac efallai bydd pobl tal neu trwm, neu ag sydd â cefnau gwan yn cael y byncs yn anghyffyrddus. Fel arall, mae na opsiwn gwersylla yn nhiroedd Pentre Ifan gyda defnydd o'r cyfleusterau ymolchi a chawod. Gall cyfranogwyr fwcio llety o safon uwch ar eu cost eu hunain, mewn ystod o westai a thai llety ardderchog cyfagos, sydd o fewn siwrne pum munud mewn car.

Bwyd.

Byddwn yn coginio ac yn bwyta gyda'n gilydd yn y gegin, sy' drws nesa' i'r brif ystafell weithio. Bydd hyn yn ein galluogi i ymdrin yn hawdd ac ar y cyd gydag unrhyw anghenion dietegol. Bydd llysiau organig lleol a bwydydd sylfaenol yn cael eu darparu am ddim, ond nid yw pris y bwydydd a'r diodydd eraill wedi'i gynnwys ym mhris y cwrs.


Cost.

Cost penwythnos yscolan yw £160 y pen, a fydd hyn yn cynnwys ffioedd, llety mewn byncws neu wersylla ym Mhentre Ifan gyda'r defnydd o gyfleusterau cawod / ystafell ymolchi. Cynhwysir hefyd cinio a swper ar ddydd Gwener, a chynwysion bwyd sylfaenol gan gynnwys reis, pasta a llysiau organig lleol ar gyfer gweddill y penwythnos. Nid yw'n fwriad cynnig profiad asgetig, beth bynnag, a byddwn yn cyfrannu at brynu bwydydd eraill fel cig (mae na fwtsieriaid organig lleol ardderchog), pysgod, alcohol, te, coffi, bara, caws, llaeth ac unrhyw beth arall sy'n mynd â'n ffansi ar fore Sadwrn. Mae £10 i £15 yr un yn hen ddigon i'r pethau ychwaneg, gan amla. Dewch ag unrhyw moethion angenrheidiol gyda chwi.

Bydd Canolfan Pentre Ifan yn darparu dillad gwelu a chlustogau glan, ond dewch â'ch blancedi, cwiltiau, duvets, sachau cysgu, tywelion, sebon ayyb. os gwelwch yn dda.

Os 'ych chi am lety mewn B&B neu dafarn leol, rhowch wybod i ni a gallwn eich helpu i ffeindio rhywle addas. Dyma restr o'r prisiau arferol:

Sengl yn y Trewern Arms o £50.00
Dwbl yn y Trewern Arms o £37.50 y person
Sengl yn B&B y Globe o £35.00
Dwbl neu 'stafell i ddau yn B&B y Globe £25 yr un

Cyfyngir nifer y llefydd i ddeg. Printwch a llenwch y ffurflen gais isod gan esbonio pam 'ych chi'n credu y byddech yn elwa o'r penwythnos, os gwelwch yn dda. [gwasgwch am y ffurflen gais]
Croeso i gerddorion sydd wedi mynychu'r penwythos cynnig eto i ail ddychwelyd. Anelwn am gymysgedd buddiol o gyfranogwyr i bob penwythnos. Yr oedd y ddau benwythnos cyntaf dan eu sang ac felly byddem yn argymell i chi ddanfon eich cais cyn gynteg ag y bo modd. Ar ol clywed bod eich cais wedi'i dderbyn bydd blaendal annychweladwy o £60 yn ddyledus o fewn wythnos. Dyddiad cau ceisiadau yw Medi 1af 2008. Disgwylir weddill y tâl erbyn Hydref 15eg; wedi'r dyddiad hwnnw efallai y cynigir y lle i ymgeisydd arall.

Yn ychwanegol...

Rhaid gadael Canolfan Pentre Ifan erbyn 9 bore dydd Llun. Bydd Ceri yn mynd am dro hamddenol ar hyd llwybr arfordir Penfro yn nes 'mlaen yn y bore, a mae croeso i unrhyw un sy'n gallu neu sydd am aros ymuno â fe. Mae Ty Ddewi tua 40 munud (ar y mwyaf) i'r gorllewin o Bentre Ifan. Byddwn yn fwy na thebyg yn cerdded o Borthclais i Lanstinan ar hyd llwybr yr arfordir gan brofi holl ogoniant Bae Sain Ffraid, gyda golygfeydd o ynys Gwales (a'i chysylltiadau â'r Mabinogi) yn y pellter a golygfeydd agosach o Ynys Dewi.

www.yscolan.info - new window yscolan