
christine & ceri
{english.}
[christine & ceri myspace]
mae ceri rhys matthews, sy'n canu'r ffliwt a'r pibau, ac sy'n un o gerddorion
traddodiadol amlycaf a mwyaf dylanwadol cymru yn awr yn canu mewn deuawd gyda
christine cooper o ddinbych y pysgod, sy'n canu'r ffidil. mae'r deuawd yn ymdrin
a'r gerddoriaeth mewn dull syml ac affeithiol sy'n amlygu prydferthwch cynhenid y
gerddoriaeth drwy cyd-ganu meistrolgar ar y ffidil a'r ffliwt bren. dont a'r un symlrwydd
a phrydferthwch i'w caneuon traddodiadol gymreig a seisnig.
mae ceri wedi teithio'n rhyngwladol fel unawdydd, ac yn y band fernhill, ers 1996.
y mae wedi bod yn amlwg yn nadeni cerddoriaeth draddodiadol y cymry drwy ei gwaith ymchwil,
trefnu a chyfansoddi, fel cyfarwyddwr cerddorol i gwmni recordio fflach:tradd, ac fel cerddor
ynddo ei hyn.
mae christine wedi gweithio gyda fernhill ers 2004.
yn yr un flwyddyn enillodd hi cystadleuaeth cyntaf ffidil geltaidd
cymru ym mhenfro. bu'n gwestai ar cd ceri yscolan, y ddisc a sbardunodd y cydwaith presennol.