whilia in welsh. whilia cymrag nei di

whilia

grandewch pwy bynnag sydd yn folon
i fi yn canu ac yn datgan
fe whiliai'n gwmws ac yn ffyddlon
a gewch chi'r hanes yma'n brydlon
a gwedai dim byd ond y gwir
y gwir yw'r gwir dim ond y gwir
ffarwel i aberystwyth
ffarwel i ben maesglas
ffarwel i dwr y castell
a hefyd morfa glas
ffarwel i ben y parce
ffarwel i'r ffigwr ffor
ffarwel i'r ferch fach lanna
fu riod yn agor dor
myfi sydd fachgen ifanc
yn cario'r galon drom
a fi sy'n gorffod myned
dros y nawfed don
pan elwyf dros y ddegfed
ti elli ganu'n iach
ni ddeuai nol drachefen
i blwy llanbadarn fach


fi wela

fi wela ynys cynon
fi wela lan yr afon
fi wela pentra aberdar
lle gora gar fy ngalon
be nei di
caf lath
caf ddwr
caf gwrw gwych
mi wela fferm glyncoli
glyn y moch ac abergorci
y tyla coch y tyla du
a thalcen ty pengelli
rwyn cofio mynydd rhydri
rwyn cofio dennis penny
rwyn cofio'r garth a chefan onn
rwyn cofio don a'r monte
mi wela don reola
mi wela pont y creiga
mi wela lelo gydai wraig
yn mynd sha graig y tyra
mi wela ferch o'r gelli
mi wela ddyffryn llynfi
mi ben y dwarchen las
mi wela plas eweni


dole teifi

twffyn glas ar ddole teifi
dwyllodd lawer buwch i foddi
llawer merch a 'nhwyllodd inne
o'r union ffyrdd i anial lwybre
ei weld e'n llanw glased iddi
finne'n ddigon siwr ohoni
petawn ddim ond cael y cyfle
tretwn i ei gariad ynte
rhoddaf goron wen i'r ffeirad
am roi cwlwm sownd a'm cariad
coron wedyn i'r un person
gael fy nwylo bach yn rhyddion
rown i'n rhodio rhyw foreuddydd
rhwng y glaswellt a'r man goedydd
cwrddyd wnes a hen gymydog
un o'r bradwyr dauwynebog
cynta peth ofynnais iddo
sut mae caru merch a'i chario
rho di heibio'i chwmni flwyddyn
daw i'th garu bob yn ronyn
fe wnes gyngor 'rhen ffwl hynny
am flwyddyn rhois i heibio'i chwmni
es yn ol ymhen y flwyddyn
gan feddwl cawn ei chwmni wedyn
y ferch atebsai'n hawdd ei deall
ffaelest ti a chael neb arall
cer di mhell na ddeua'n agos
rwy'n priodi cyn pen wythnos
un ferch arall nid wy'n mofyn
hi oedd ynghariad er yn blentyn
es i'r ardd i ddewis powsi
heibo'r lemons heibo'r lili
heibio'r pink a'r new carnation
powsi ges o ddinad poethon
rhosyn gwyrdd yng ngardd y gardner
ac enw hwn yw caru'n ofer


dawns o gwmpas

mari lan a mari lon a mari dirion doriad
mari ydyw'r fwyna'n fyw a mari yw fy nghariad
ac onid ydyw mari'n lan ni wiw i sian mo'r siarad
mari lan a mari lon a mari dirion doriad
dacw dacw fuwch ac arni gyrnau gleision
nid am y fuwch rwy bron a thorri ynghalon
ond am y ferch lle rhoddais i fy serch
pan welais yn ei godro
dacw stwc ac arni gylchau gloywon
nid am y stwc rwy bron a thorri ynghalon
ond am y ferch lle rhoddais i fy serch
pan welais i yn ei chario
dacw rwm a'i llond o lestri ddigon
nid am y rwm rwy bron a thorri ynghalon
ond am y ferch lle rhoddais i fy serch
pan welais i'n eistedd yno
ma merched bach llantrisant
yn ynod off o foliant
a breichiau llanc yn gwasgu'n clos
yn danso nos y mabsant
ma lot o ladies cyman
yn byw ger forj aberafan
sal a bet a'r gwraig sionet
sdim shwt set gan satan
ma merched bach y blaina
yn off o gapa lasa
motrw aur ar ben bob bys
a chwt eu chrysa'n llapra
ynghariad i eleni
yn gweini ar y bili
twym yw'r serch o dan ymron
ynghalon bron a ffili


cariad fel y mor
ni bu ferch erioed cyn laned
ni bu ferch erioed cyn wyned
ni bu neb o ferched dynion sian fwyn sian
nes na hon i dorri ngalon
sian fwyn dere i'r llwyn
canwn glod i siani fach fwyn
o mor gynnes mynwes meinwen
o mor fwyn yw llwyn meillionen
o mor felys yw'r cusanau
gyda serch a mwynion eiriau
gwen ei brest gwen ei bronnau
gwen pob man a coch ei gruddiau
gleision lygaid teg ymadrodd
glendid hon yn llwyr a'm lladdodd
mi sgrifennaf lythyr eurad
dyma gariad fel y mor
ai danfonaf at fy ngariad
mi rof inc ar bapur tene
ac a'i seliaf a chusane
dyma lythyr wedi'i selio
sel o aur a chusan ynddo
o na allwn gan fy ngofid
roi fy nghalon ynddo hefyd
yn lle papur rhof ddail gleison
yn lle inc rhof waed fy ngalon
yn lle cwer i'w ddyfal selio
mi rof wallt fy men i rwymo


dawns tro

os daw yngariad heno i gnoco'r gwydyr glas
rho ateb tidi iddo paid ateb nol gas
nad yw'r eneth gatre na'i wyllys yn y ty
gwed taw rhyw grwt arall sy wedi mynd a hi
'se da fi denydd eryr bydden i llawer gwell
i hedfan draw i yngariad draw yn y gwledydd pell
dros diroedd maith a moroedd gobitho fod e'n iach
rwy'n caru lle mae'n cered o wraidd fy ngalon fach
es i'r ardd i dorri powsi hibo'r lemwns hibo'r lili
hibo'r pink a'r new carnation powsi ges o ddinad poethon
troi'r wthnos yn flwyddyn troi'r flwyddyn yn dair
rwy'n ffilu troi ynghariad i siarad un gair
tra fyddo'r eryr draw'n yr allt
tra fyddo dwr y mor yn hallt
tra fyddo'r ych yn pori'r ddol
f'anwylyd fach ni ddaw e'n ol
troi'r afon i'r ffynon troi'r ffynnon i'r ty
rwyn ffilu troi nghariad 'run feddwl a mi
troi'r ceffyl i'r gwedde troi'n ychen i'r ddol
rwyn ffilu troi 'nghariad i orwedd yn ynghol
bachan ifanc ydwyf bron un ar hugen od
os odw'n llac yngafel rwyn stedi ar fy nhrod
wy'n berchen tai a thiroedd a gwartheg llawer iawn
a defed ar y mynydd a pheder tas o fawn
wy'n debyg i'r pysgotwr yn rhodio glan y llyn
yn gweled pysgod lawer ond yn ffilu dal yr un
wy'n debyg i'r golomen yn pigo gwenith gwyn
honno mor ddiniwed na neuth hi ddrwg i ddim
bachan ifanc ydwyf yn dechre cwnnu mhen
yng nghanol tymor ienctid i garu'r lodes wen
a'i charu a'i chofleido a gofyn iddi hi
os licse hi yn ei chalon caru bachan fel y fi
mi af i lunden glame os byddai byw ac iach
arhosai ddim yng nghymru i dorri ngalon bach
ma arian da yn llunden a swper gyda'r nos
a mynd i gwely'n gynnar cwnnu am wyth o'gloch


chwant

wyn ddeg ar ucen od ac arani chwant prioti
geneth ysgafn drod fel gwenno penygelli
mae ganddi dillad crand ac ma hi'n eneth bropor
decpunt yn y banc ar ol ei modryb gaenor
ma geni het jim cro yn barod i fy siwrne
sgitshe o groen llo a gwisg o frethyn catre
ma geni dy yn llawn yn barod i'w chroesawi
peder tas o fawn a dillad ar fy ngwely
roedd yno bwdyn pys a hwnnw ar hanner berwi
cwc wedi torr'i bys ac colli'r clwtyn llestri
cig y maharen ddu a gwthyn yn ei gymale
potes maip yn gryf a lwmpyn o baste fale
ar lan hen afon ddyfrdwy ddofn eisteddai glan forwynig
gan ddistaw sisial wrth ei hun gadawyd fi yn unig
heb gar na chyfaill o fewn y byd na chartre chwaith fynd iddo
drws ty fy nhad sydd wedi'i gloi rwyn wrthodedig heno
mae bys gwaradwydd ar fy ol yn nodi fy ngwendide
a llanw mywyd wedi ei droi a'i gladdu o dan y tonne
ar allor chwant aberthwyd fi do collais fy morwyndod
a dyna'r achos pam yr wyf fi heno wedi ngwrthod
ond hedeg ma fy meddwl brudd i fyd sydd eto i ddyfod
a chofia dithe bradwr tost rhaid i ti fy ngyfarfod
ond meddwl am dy enw di a byw sydd i mi'n ormod
o afon ddwfwn derbynia fi caf weli ar dy waelod
ti frithyll bach syn chware'n llon yn nyfroedd glan yr afon
ma gennit ti gyfeillion fyrdd a noddfa rhag gelynion
cei fyw a marw dan y dwr heb undyn dy adnabod
o na chawn inne fel tydi gael marw a dyna ddarfod
y bore trannoth cafwyd hi yn nyfrodd glan yr afon
a darn o bapur yn ei llaw ac arno'r ymadroddion
gwnech i mi fedd mewn unig fan na chodwch faen na chofnod
i nodi'r man lle gorwedd llwch yr eneth gadd ei gwrthod