geirie hynt

impo

er torri brig brenhinbren
a bwyell lem yn syden
yn lle bob cainc o'r bon di-freg
f'all impo deg ar ucen (wiliam phylip 1580 -1670)
ma llawer pen bencyn o'r dinas i benllyn
a dolydd i'w dilyn hyd lawr dyffryn clwyd
er garwed yw'r creigie sy o gwmpas dolgelle
gerwinach nag unlle yw'r ganllwyd
brenhinbren y ganllwyd oedd dirion a dorrwyd
mewn barieth fe'i bwrwyd o'r aelwyd lle'r odd
fe dyfodd yn gapten - ni fishodd un fesen
yn nolydd glyn eden glan ydoedd
yr odd yn bren gwrol a'i fodde'n rhyfeddol
a phawb yn ei ganmol o bobol y byd
a'r hen dade dywiol - rhai doethion odiaethol
a gadwodd yn fywiol ei fywyd
er claddu'r brenhinbren dan gwys y ddaearen
cynyddws un fesen yn gangen deg wych
ar hon y tyf gwyrdd-ddail - bydd mynych ei manddail
ma'r gwraidd mewn hen adfail hynodwych


wasod

dyma'r pren yr wy'n ei dorri
er mwyn y mab yr wy'n ei garu
rhif y dail sydd arno'n loyw
sydd yn neud llythrenne'i enw
union onnen wy'n ei thorri
ar y goeden ma hi'n tyfu
os os rhywyn digwydd imi
mi gaf weld cyn nos yfory
union onnen wy'n dy dorri
ddiar y pren lle'r wyt ti'n tyfu
a'r mab cynta ddaw i'm cwrddyd
hwnnw fydd f'annwl gariad
gue gue gue mes affaires sont a moi
malgre mes parents je m'amuserai tout le temps
c'est en dix ans je m'en irai
mes parents ne veulent pas me laisser m'amuser
gue gue gue mes reves sont a moi
malgre mes parents je reverai tout le temps
c'est en cinq ans je m'en irai
mes parents ne veulent pas me laisser rever
llawer gwaith y bum i'n styried
beth i neud ambyti nghariad
medde nhad nag yw'n ei lico
wellten i droi hwnnw hibo
gue gue gue mes chanson est a moi
malgre mes parents je chanterai tout le temps
c'est en quatre ans je m'en irai
mes parents ne veulent pas me laisser chanter
mynnaf chain o nawpleth arian
i'w rhoi'n bont ar deifi lydan
gwallt fy mhen bydd ganllaw iddi
er mwyn y mab sy'n tramwy drosti
gen i gangen o rosmari
ben y drws y ma hi'n tyfu
pan fydd f'anwylyd paso hibo
fydd y gangen yn blodio


grey cock

it was all on some summer evening
i heared a pretty fair maid
she was mourning she was weeping for her father
grieving for her mother
thinking all on her true love john
at last johnny came
he found the doors all shut
he rang at the gate he rang till
the pretty fair maid arose
to put on her clothes
to make haste
to let johnny come in
johnny he come in
all round the waist he caught her
and into the bed he brought her
they lay there a talking a while
she said my pretty feathered fowl
you're the prettiest feathered fowl i ever saw
if you won't crow until it's almost day
your comb will be the pure ivory
and your wings of a silver grey
him being very young
he crowed two hours before it was day
and she sent her love away by the light of the moon
thinking it was almost day
said oh my dear johnny when will you be back to see me again
said when the seventh moon is past and shines on yonders lea
and you know that will never be
oh what a foolish girl was i
to think that my love was as true
as the rocks grow to the ground
but since i found he's altered in mind
it's better to live single than bound
curo y bum yn anial ffest
yn ffenest onest eneth
methu'n wir a'i dihuno hi
a wnath i mi fynd ymeth
bydd yr hin yn rhewi'r haf
pan driai nesa nosweth
mynnwn gasglu'r niwl a'i hel
a'i rwymo mewn sachlenni
hyd y gweunydd fore a hwyr
cyn baroi'n llwyr ei chwmni
mynnaf hynny doed a ddel
cyn canai ffarwel iddi
withe'n llunden withe 'nghaer
a withe'n daer amdani
withe'n cysgu'n hun mewn cell
ond wastod pell oddi wrthi
fi a groeswn anial rhos
i fod yn agos ati
i must be going no longer staying
the burning thames i have to cross
o i must be guided without a stumble
into the arms of my own true love
o willie dear o dearest willie
where is that colour you'd times ago
o mary dear the clay has changed me
i'm but the ghost of your willie o
the cock it crew and crew so fully
it crew three hours before it was day
and it was then that my love departed
not by the moon or the light of day
o willie dear o dearest willie
when shall i see my love again
when fish they fly love and the seas run dry love
and the rocks they melt in the heat of the sun
titrwm tatrwm gwen lliw'r wyn
lliw meillion mwyn rwyn curo
ma'r gwynt yn or yn dod o'r llyn
o flodyn y dyffryn deffro
chwytha'r tan i gynnu glou
mae'n arw arnoi heno


neithor

mi ganaf i bwt o lawenydd
os byddwch yn sifil i gyd
am gobler du bach o landdewi
sy'n sefyll a'i sawdl mor syth
y cobler du bach at yr esgid
y cobler du bach at y lest
y cobler du bach at y botes
fe wasgodd hi rhynto a'i frest
af i priodas yfory
ar gefen ynghaseg las fawr
a honno'n ddeg troedfedd a hanner
ei mesur o'i mwng hyd y llawr


gwalch
fi wna bob camp yn gampus
naf afal sur yn felus
fi wna i weddrod dod ag wyn
a brig y brwyn yn ffigys
fi wna bob camp yn ddifa
fi garia ddwr miwn shifa
hedfanai oddi ma i'r north
ar gefen torth o fara
ma gen i darw newpan
a pheter corn ar ucen
a buwch yn dod a llo pob mish
nid odd ei phrish ond whucen
tri pheth anawdd i napod
dyn derwen a diwyrnod
y pren yn gou a'r dydd yn troi
a'r dyn yn ddouwynepog
dim twyll yw twyllo twyllwr
dim brad bradychu bradwr
dim lladrad yw fi wnaf yn dda
lladrata ddiar lladratwr
mi es i ffair henfedde
mi brynes gaseg ddu
a phunt a rois amdani
a mawr yngholled i
fi bwydes yr hen gaseg
ar ddwr a cheirch a bran
nes ath yr hen greadur
rhy dew i symyd cam
fe drigodd yr hen gaseg
a'i chalon ath fel dwy
a'm gadel i bryd hynny
heb allu prynu mwy
fe ddath y brain a'r piod
i ofyn am brish y cig
fe wedodd un bioden
ma'n ddicon i ni gyd
fi brynes geffyl gan ryw ddyn
a wnnw'n rogue fel fi fy hun
cynniges iddo ddougen punt
am geffyl sownd heb dorri'i wynt
wetws y dyn chi'n gwpod y drefen
n”des inne ar i gefen
ros inne'r whip i'r hen geffyl du
i glices yn fawd a bant a fi
fe widdws y plismon dalwch y dyn
a wetes inne'r un peth yn hun
ac er fo na bobol dougant ne dri
clices ym mawd a bant a fi
chi bobol nawr sy'n gryndo
yn fawrion ac yn fan
er mwyn cal caseg arall
rhowch ginog am y gan


clangeia

mi es pan oeddwn fychan
at sion y gof i'r gellan
i mofyn harn at dorri mawn
ar ryw brynhawn fy hunan
rodd wil a lewys leyshon
yn gwella'i bache crochon
a shorsi wil a shoni sam
yn siarad am ysbryton
rodd ysbryd sian yn cribo
a nyddu dan ei dwylo
ac ysbryd georgi bach penhill
ac ysbryd wil yn shafo
dath wiliam puw o'r felin
a nel i miwn dan werthin
yn son am ysbryd mari mwm
yn dilyn twm penderyn
derfydd aur a derfydd arian
derfydd melfet derfydd shitan
derfydd pob dilledyn heleth
eto er hyn ni dderfydd hireth
hireth mawr a hireth creulon
hireth sydd yn torri nghalon
pan fwyf dryma'r nos yn cysgu
fe ddaw hireth ac a'm deffri
fe welwyd ysbryd milgi
ar ael y bryn yn croesi
ac ysbryd gwas y gelli thorn
ac ysbryd corn yn canu
odd ysbryd cathe'n mewan
ac ysbryd ieir yn crecan
ac ysbryd morwyn shorsi wil
yn hwrni nghil y pentan
yn son am gwrach y rhipyn
y tylwth teg a'r goblin
a ryw gyharath drwg i nad
yn catw'r wlad mewn dychryn
ma withe ysbryd yngladd
y mawr a'r bach yn gytradd
ac ysbryd moch yn catw swn
ac ysbryd cwn yn ymladd


hynt
a fi yw'r bachan ifanc
sy'n cario'r galon drom
a nawr wy'n gorffod madel
a thros y nawfed don
pan elwyf dros y ddegfed
ti elli ganu'n iach
na ddoi byth nol drachefen
i ddyffryn clettwr fach
pan ddelwyf nol tro nesa
bydd altrad mawr fforhyn
bydd plwm yn nofio'r tonne
fel hwyad las ar lyn
bydd blode cherries gwynion
fel eirin duon bach
cyn ddoi byth nol drachefen
i ddyffryn clettwr fach
a fi yw'r colier ifanc
newi ddod o'r wlad
yn gaffer acha talcen
yn ennill mwy na nhad
wy'n gallu cwto'n gwmws
yn gallu cwto'n gam
a gallu holo tano
a llanw peter dram
wy'n ennill shaw o arian
a rheini gyd yn stor
a phan ddaw mish y fale
fi af lawr sha dwr y mor
ac af i lunden glame
a byddai byw ac iach
a sefai ddim i'r pwlle
gal dorri nghalon fach