Benjamin Brunt 1837- 1925

Hanes allfudo teuluol i Batagonia

item2
item1b

Tus huellas nos marcaron el camino

"Your footprints made our road"

item4

La historia de una familia Galesa en Patagonia

The story of a Welsh family in Patagonia

item5

Y Blynyddoedd Cynnar

Ganwyd Benjamin Brunt yn Hewscot, ym mhlwyf Trefeglwys yn Sir Drefaldwyn, ar Chwefror 7fed,1837. Bu farw ar ei fferm, Argoed, ym Mhatagonia ar Fai 12fed, 1925. Ar ei fedd yn Nolavon, Patagonia ceir y geiriau canlynol a ddewiswyd gan ei ddisgynyddion: “Ol dy draed oedd ein llwybr”. Mae’r hanes hwn yn dilyn ei daith ar hyd y llwybr hwnnw: ei ddwy briodas; blynyddoedd lawer o weithio’n galed ar ffermydd wedi eu rhentu o amgylch Trefeglwys; ac ymfudo i’r Ariannin ar ddechrau 1881, ble y creodd o a’i deulu Argoed o dir diffaith.

Priododd ei dad, Benjamin arall, ei fam tua 1834. Mae’n debyg mai ail briodas ei dad oedd hon gan fod wurion ac wyresau o oed Benjamim. Ganwyd ei chwaer, Sarah, yn 1835, ac ail chwaer, Ann yn 1839. Dim ond 4 acer oedd Hewscot i ddechrau ond erbyn 1851 roedd wedi cynyddu i 23 acer. Priododd Benjamin Elizabeth Jones o Fryncrugog, Trefeglwys, yn 1857, pan oedd o’n ugain oed a hithau’n un ar hugain. Cymron nhw fferm fechan, Pant y Badell, (11 acer) ble ganwyd eu dau blentyn cyntaf. Goroesodd David, y mab, ond bu farw Elizabeth, y ferch, yn ifanc. Ar ôl saith mlynedd symudon nhw i fferm fwy o’r enw Maesyblawd, a oedd dros y bryn ac oddi ar y brif ffordd o Lanidloes i Fachynlleth, rhwng Trefeglwys a Staylittle, ac a rentiwyd gan Brifysgol Rhydychen. Erbyn hyn roedd ganddynt fwy o blant – mab o’r enw Benjamin a dwy ferch, Elizabeth (eto) ac Ann. Ganwyd Richard, John, a mab arall o’r enw Roger Edward yn y blynyddoedd canlynol, ond bu trasiedi yn ystod Haf 1871pan fu farw Elizabeth o ‘r dwymyn goch (y frech sgarlad/scarlet fever) ym mis Awst.

item8

Yn ystod ei salwch edrychwyd ar ôl y plant (dim ond 8 mis oed oedd Roger Edward pan fu farw ei fam) gan Ann Jones, merch sengl Richard a Mary Jones, Borfanewydd; bu farw Richard,tad Ann, ym mis Hydref 1868, ac roedd tenantiaeth Borfanewydd, y fferm a rentiwyd ganddynt ochr arall i’r dyffryn o Faesyblawdd, yn enw mam Ann, Mary, a oedd,ar y pryd, yn 67 oed. Pan yn iau, bu Mary yn gweithio fel gwehyddydd gwlannen i ennill arian i fagu ei theulu mawr o chwe merch ac un mab.Roedd pethau’n ansicr

Borfanewydd, cartref Ann Brunt

ym Morfanewydd (60 acer) ar ôl marwolaeth Richard: bu Ann yn byw yno gyda’i mam a dwy forwyn. Nid yw’n glir pwy oedd yn gwneud y gwaith corfforol caled ar y tir.

Dechreuad newydd

Pan fu farw ei wraig, Elizabeth, gadawyd Benjamin Brunt gyda saith o blant a fferm i edrych ar eu holau. Fodd bynnag, dim ond deg wythnos ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf fe briododd Ann Jones, ym Methel, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Drenewydd. Roedd Ann yn 25 oed a Benjamin yn 34. Buon nhw’n ffermio Maesyblawdd gyda’i gilydd tan tua 1875.

Yn y cyfamser, roedd Elizabeth, chwaer ifanca Ann, a’i gŵr, John Hamer, wedi symud i Borfanewydd, er bod y denantiaeth dal yn enw’r weddw, Mary Jones. Roedd gan Elizabeth a John bedwar o blant. Tua 1884 symudon nhw i Bwlch, Oakley Park. Priododd un o’u merched, Mary Ellen, gyda Richard Evans, Fferm Tyddyn. Mae’r dudalen we hon wedi ei chreu gan ŵyr iddynt.

item14

Roedd gan Ann a Benjamin Brunt blant gyda’i gilydd i ychwanegu at rai Benjamin o’i briodas gyntaf. Ganwyd William ym Maesyblawdd ym mis Mawrth 1874, ond erbyn i James gael ei eni yn 1875 roedd Benjamin ac Ann wedi symud i lawr y wlad i fferm lawer mwy.

Roedd Ann, chwaer weddw Margaret, wedi priodi Peter Griffiths, perchennog Argoed, Trefeglwys a oedd 28 mlynedd yn hŷn na hi.Roeddent yn byw ar yr incwm a ddaeth o osod Argoed i’w ffermio gan denant.

Mae Argoed wedi cael.

Mae Argoed wedi cael ei ffermio gan y teulu Hughes ers 1943. Mae dyddiad, 1817, uwchben y drws

Tua 1875 symudodd Benjamin ac Ann i Argoed fel tenantiaid newydd Peter. Roeddent yn byw yng nghefn y tŷ tra bod Peter a Margaret yn byw mewn mwy o steil yn rhan flaen y tŷ, weithiau’n cael ei alw yn Neuadd Argoed. Roedd Argoed (ac yn parhau i fod felly)yn fferm sylweddol o 133 acer o ddyffryn ffrwythlon yr afon Trannon a’r llethrau o amgylch. Bu Benjamin ac Ann yn ffermio yma am chwe mlynedd a ganwyd mab arall, Thomas, yma yn Awst 1877. Mae traddodiad lleol yn awgrymu bod Benjamin yn ffermwr blaengar iawn gan ddefnyddio gwrtaith naturiol cyn ei bod yn gyffredin i wneud hynny. Erbyn hyn, roedd David, y mab hynaf, wedi tyfu i fyny ac yn gallu helpu ei dad a byddai’r plant ifanca wedi gallu helpu hefyd. Ond, roedd hi’n gyfnod anodd i ffermwyr mynydd yng Nghymru gyda sawl Haf gwlyb; roedd pethau mor ddrwg fel bod Prifysgol Rhydychen wedi gostwng y rhent i denantiaid er mwyn ysgafnhau’r baich.

Symud Ymlaen

Roedd Benjamin, erbyn hyn, wedi bod yn ffermio yn ardal Trefeglwys am dros 20 mlynedd, ac er ei fod yn llwyddiannus ac yn trin un o’r ffermydd gorau yn yr ardal ni allai weld unrhyw obaith o berchen ar fferm sylweddol ei hun. Roedd ei deulu mawr yn cyrraedd oed pan fyddai’n rhaid iddynt chwilio am fywyd i ffwrdd o gartref a chan fod bryniau Sir Drefaldwyn yn orboblog ychydig o gyfleoedd oedd yno i bobl ifainc ar y pryd. Yn ddios, bu trafodaethau maith am y dyfodol yng nghartref teulu’r Brunt yn Argoed. O’r diwedd gwnaethpwyd penderfyniad. Yn 44 oed penderfynodd Benjamin i fynd ag Ann ac wyth o’r plant i’r Wladfa Gymreig a oedd yn datblygu’n gyflym yn Nyffryn Chubut, Patagonia yn ne’r Ariannin. Nid yw’n glir pa wyth plentyn a ddewiswyd na beth a ddigwyddodd i’r rhai na aeth. Yn gynnar yn 1881 gadawon nhw Drefeglwys ar geffyl a thrap i fynd at y trên a fyddai’n eu cludo i Lerpwl a’r llong i Batagonia.

item17

Roedd y gwladfawyr cyntaf wedi cyrraedd Patagonia ar Orffennaf 28ain, 1865, a glaniasant mewn lle a elwir heddiw yn Borth Madryn cyn cychwyn ar eu taith ar hyd y tir i Ddyffryn Camwy. Roedd y gwladfawyr cyntaf hynny yn ddigrefft ac yn chwilio am fywyd ymhell o erledigaeth y Saeson. Goroeson nhw anawsterau enbyd: sychder a llifogydd; ond, ymhen amser, gwelwyd ffyniant pan ddatblygon nhw system o gamlesi a system ddyfrhau artiffisial. Rhoddodd Llywodraeth yr Ariannin ddarn o dir i bob teulu, gyda’r ardaloedd agosaf at yr afon yn cael eu cymryd yn gyntaf. Pan gyrhaeddodd Benjamin a’i deulu yn 1881 roedd y wladfa yn fwy sefydledig ac roedd rhannau isaf y dyffryn yn cael eu ffermio gan yr ymfudwyr cyntaf

Mimosa: cludodd yr ymfudwyr cyntaf o Lerpwl i Batagonia in 1865.

item19
item20

Ann a Benjamin, gyda dau o’u hwyrion, yn eistedd to allan I Argoed y ty a adeiladwyd ganddynt ym Mhatagonia.

Mae’r sianeli dyfrio gwreiddiol yn dal i gael eu defnyddio hyd heddiw

item25

Ym Mhatagonia

Dewiswyd fferm y teulu Brunt yn Nolavon, mewn ardal a ddisgrifiwyd gan Benjamin fel ‘diffeithwch enbyd’. Mae Dolafon rhyw 35 milltir o geg Afon Chubut yn Rawson, y pentref agosaf ble y gellid prynu a derbyn nwyddau ar y pryd. Golygai hyn daith o 70 milltir yno ac yn ôl. Am ychydig o flynyddoedd, eu fferm nhw, (y penderfynon nhw ei alw yn Argoed) oedd y mwyaf anghysbell yn y wladfa, ond, yn raddol, tyfodd gwareiddiad o’u cwmpas. Tyfodd Benjamin wenith o safon uchel ac enillodd wobrau mewn ffeiriau bydeang : Paris yn 1889, a Chicago yn 1993. Helpodd hyn i godi delwedd a phrisiau gwenith Patagonia yn y farchnad ryngwladol. Roedd ganddo synnwyr busnes da ac roedd ganddo ran flaenllaw yn y cwmni cydweithredol lleol, a ddaeth yn hynod bwysig yn natblygiad economaidd y wladfa yn Chubut.. Benjamin oedd y prif gyfranddalwr pan oedd y cwmni yn talu rhandaliadau o 20% ar ddechrau’r 1890au. Cludwyd llawer o’r gwenith ar longau i Lerpwl ble roedd dyfodiad y llwyth allan o dymor yn fanteisiol o’i gymharu â’r cynhaeaf o hemisffêr y gogledd..

Y fedal aur a dderbyniodd Benjamin Brunt Ffair y Byd yn Chicago yn 1893.

Mae stori leol sy’n dangos cymaint y parchwyd Benjamin gan ei gymdogion. Rhoddodd Llywodraethwr Chubut (1900-1903), Alejandro Conesa, o San Juan ble roedd yr hinsawdd yn ffafrio alffalffa fel cnwd, yr hedyn cyntaf iddo ei blannu fel arbrawf yn nyffryn Chubut gan ofyn iddo ddosbarthu’r cnwd ymysg ffermwyr eraill. Pan gynigiodd rhai arian mawr iddo am fwy na’u siâr gwrthododd gan fynnu dosbarthiad teg i bawb. Dyma oedd ffordd y Cymry.

O ganol yr 1880au ymlaen, dechreuodd y Cymry archwilio ac ymsefydlu ar odre’r Andes yng Nghwm Hyfryd, taith 12 diwrnod mewn trên wagen, a thua 300 o filltiroedd ar hyd diffeithwch Patagonia. Yr un Roger Edward Brunt, a oedd yn 8 mis oed ym Maesyblawdd pan fu farw ei fam, oedd un o’r rhai cyntaf i ymsefydlu yno. Yn 1917 cyrhaeddodd y rheilffordd o Borth Madryn i Ddyffryn Camwy Ddolavon, a ddaeth yn fan trosglwyddo nwyddau i ac o’r cymunedau yng Nghwm Hyfryd. Enwau’r cymunedau hyn erbyn heddiw yw Esquel a Threvelin. Trwy gydol Chubut mae disgynyddion Benjamin yn aelodau gweithredol o’r gymdeithas fodern a deinamig.

Dolavon heddiw.

Heddiw,mae Tamara a Juan -merch a mab Ubaldo "Pochi"Brunt (gorwyr Benjamín Brunt )yn ffarmio ar fferm nesafff at Argoed. Mae’r fferm wreiddiol, Argoed, wedi ei gwerthu ond mae’r adeiladau a adeiladodd Benjamin a’i deulu dal i gael eu defnyddio.

Cliciwch yma am fwy o luniau o ddisgynyddion heddiw.

Defnyddir nifer o’r ffermydd ar benwythnosau gan y teulu sy’n byw ac yn gweithio yn ystod yr wythnos yn nhrefi mawr Trelew a Phorth Madryn. Mae Trelew yn dref o fwy na 100 mil o drigolion a Rawson, gerllaw, yw prif dref talaith Chubut. Mae Porth Madryn yn borthladd prysur gyda llawer o longau pleser yn llawn ymwelwyr yn cyrraedd i weld y morfilod a’r bywyd gwyllt ar Orynys Valdes sydd gerllaw. Mae nifer o ffermydd yma yn dal i gadw gwartheg a defaid. Mae’r ffermio yn llai âr yma, er bod mwy a mwy o ffrwythau fel ceirios yn cael eu cynaeafu yma a’u hedfan i’r farchnad aeaf yn hemisffêr y gogledd. Mae taith ar fws ar y ffordd dda o Drevelin ac Esquel yn yr Andes yn cymryd tua saith awr, taith a gymerodd dair wythnos i’r ymfudwyr cyntaf ei chwblhau

item28

Ubaldo "Pochi" Brunt

Yr hwn fu marw mis gorffennaf 2006 yn 55 mlwydd oed.

item32

Yn ei henaint ysgrifennodd Benjamin Brunt lythyr hir at y Montgomeryshire Express, ac fe’i cyhoeddwyd yn 1921. Roedd wedi parhau i ddangos diddordeb brwd yn Nhrefeglwys a’i phobl, trwy lythyrru am fwy na 40 o flynyddoedd a thrwy danysgrifio’n gyson i’r papur newydd.. Yn ei lythyr, disgrifia sut y mae erbyn hyn yn byw o fewn 15 munud i’r rheilffordd. Mae ei berllan yn achos balchder mawr iddo ac yn broffidiol iddo o ran incwm ac iechyd.. Roedd ei gefnogaeth ddibaid i ddiwylliant Cymreig ac i’r eglwys Fethodistaidd Calfinaidd yn amlwg o hyd. Yn fwy na dim, ymfalchïodd yn y ffaith bod ei hen ffrindiau a’u plant yn gallu prynu a gweithio ar eu ffermydd eu hunain, hyd yn oed yn Sir Drefaldwyn. Bu o ac Ann fyw yn hir gan gadarnhau cred Benjamin mai yn Chubut mae’r hinsawdd orau yn y byd.

The entrance to Podgy Brunt's farm, Chacra 278

item33

Saint David's Church, Dolavon

item34
item35

Dwy olygfa wrth wynebu’r Andes

item40

Mae llawer o lyfrau, yn Sbaeneg a Saeseng, wedi cofnodi agweddau o’r ymsefydlu yn Y Wladfa. Dyma 2 enghraifft.

Glyn Willams 1975 The Desert and the Dream: a study of Welsh colonisation in Chubut 1865-1915. University of Wales Press.Astudiaeth academig o’r pwysau cymdeithasol a arweiniodd at ddatblygu’r Wladfa.

Sergio Sepiurka and Jorge Miglioli. 2005 Rocky Trip: the route of the Welsh in Patagonia. Llyfr poblogaidd gyda lluniau gwych yn olrhain hanes blynyddoedd cyntaf y gwladfawyr a’u teithiau gyda chyfraniadau cyfoes..

item42
item41